The Winter's Tale

Winterstale

Cyflwynwyd un o ddramâu diweddaraf a gwirioneddol hoffus Shakespeare mewn cynhyrchiad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn Awst 2007. Mae A Winter's Tale yn adrodd hanes brenin mawr a suddodd i waelodion gofid trwy genfigen wallgof.  Mae Brenhines brydferth, bugail neu ddau ac arth ffiaidd, bob un yn cyfrannu at y daith gyfareddol hon o fradychiad, cyfeillgarwch, ac yn bennaf oll, cariad, a gyflwynir gan MUTM mewn gwledd weledol o ryfeddod. Gan ddefnyddio trac sain newydd sbon, ynghyd â theatr gorfforol a dawns, sicrhaodd MUTM y byddai byd Shakespeare yn plesio cynulleidfa o'r 21ain Ganrif. 
Darparodd MUTM gyfle i hyfforddeion gael profiad gwaith theatr ochr yn ochr â phobl broffesiynol, fel rhan o'i gynllun peilot prentisiaeth yn y theatr yn ystod cyfnod y cynhyrchiad hwn.

 

 

Back