Rhaglenni Hyfforddi
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae MUTM wedi cynnal peilot arloesol, sef rhaglen hyfforddi ymarferol ar gyfer pobl rhwng 18 a 30 oed yn ardal Slough drwy'r prosiect 'Shifting Shakespeare'.
Cafodd 5 hyfforddai eu recriwtio i weithio ochr yn ochr â chwmni proffesiynol wrth iddynt greu ac ymarfer addasiad cryno gwreiddiol o ddrama Shakespeare 'A Winters Tale', a aeth ar daith yn lleol ac a redodd am bythefnos yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.

Elfennau'r Rhaglenni Hyfforddi
-
Mae'r dewisiadau sydd ar gael yn amrywio o berfformio i oleuadau a dylunio set.
-
Hyfforddiant ar y safle, yn gweithio ochr yn ochr ag actorion proffesiynol, cyfarwyddwr a chriw cymwysiedig
-
Swydd dan hyfforddiant gyflogedig am 6 wythnos yn cynnwys llety a chludiant i Ŵyl Ymylol Caeredin
-
Sesiwn fentora wythnosol gyda phroffesiynolwyr cwmni
-
Anogir dysgu myfyriol trwy lyfrau log a chyfnod ymarfer hirach na'r arfer
-
Profiad o gwmni celfyddydau perfformiadol o safon ryngwladol drwy fod yn bresennol yn yr Ŵyl Ymylol
Cafodd y swyddi dan hyfforddiant a'r cynhyrchiad lwyddiant aruthrol ac aeth rhai hyfforddeion yn eu blaen i astudio yn y celfyddydau perfformiadol neu i sefydlu busnesau creadigol o ganlyniad i'r profiad hwn. Roedd cyraeddiadau'r hyfforddeion ymhell y tu hwnt i'r disgwyl gan ddangos bod profiad diwydiant go iawn yn bosibl ac nad oes angen bodloni ar y profiad arsylwi a gwneud te arferol y mae ein pobl ifanc yn gorfod ei oddef.
Ar hyn o bryd mae MUTM yn cael trafodaeth gyda Theatr Lemon Cake ynghylch ail gyfnod y rhaglen Hyfforddai ym mis Gorffennaf 2007.
Os hoffech gael gwybod mwy am unrhyw agwedd o'r rhaglen hon, anfonwch e-bost i info@messupthemess.co.uk.