Threepenny Opera

Threepenny Opera

Cyflwynodd pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed stori dywyll a doniol Brecht am fywyd yn y ddinas yn Slough yn yr 21ain ganrif.  Gyda cherddoriaeth fyw dan arweiniad artistiaid lleol talentog, fe grynhodd y cynhyrchiad cynhwysfawr hwn yr union reswm pam ffurfiwyd Mess Up The Mess yn y lle cyntaf – i ddarparu cyfle i bobl broffesiynol fentora doniau lleol a chreu profiad o theatr arloesol, gynhwysol i bawb.

 

Daeth MUTM ag aelodau Canolfan Pobl Ifanc Slough, Prifysgol Dyffryn  Tafwys a'r Academi Greadigol at ei gilydd i gyflwyno sioe nwyfus, fywiog gyda sawl perfformiad da gan unigolion.
Anghofiwch y syniad bod opera yn uchel-ael; roedd yr addasiad hwn o Threepenny Opera Bertolt Brecht a Kurt Weill yn hollol fodern, gyda chardotwyr yn perfformio dawnsio stryd a rap.......
O ran gweledolrwydd, roedd yn llawn asbri, yn gyd-drefnus ac yn arloesol, ac roedd rhai aelodau o'r cast yn rhagorol.
Ac nid yw'r ffaith mai pobl ifanc lleol gynhyrchodd e' yn golygu nad oedd yn werth ei weld.  Fe oedd!"

Detholiadau o adolygiad gan Clare Brotherhood, Slough Express, Mehefin 16eg 2006

"wrth berfformio’r Threepenny Opera hynod gymhleth gan Weill … cafwyd cyflwyniad nodedig gan Gwmni Theatr Mess Up The Mess … gyda ffrwydrad o gerddoriaeth, caneuon, actio a dawnsio ardderchog, a hyd yn oed taflunio ffilm.
Trwy gydol yr arddangosiad disglair, egnïol, lled-operatig, bron Vaudeville hwn - wedi ei gynhyrchu a'i gyfarwyddo'n fedrus gan Sarah Jones, Sue Roberts a Rob Harris - roedd rhywbeth newydd, annisgwyl a rhyfeddol yn digwydd bob munud."

Detholiadau o adolygiad gan Rob McKay, Slough Observer, Mehefin 16eg 2006

Mac and Polly's wedding Polly Mac's Gang Barmy Army

Back