Strangers
Cafodd y ddrama hon ei hysgrifennu a'i pherfformio gan bobl ifanc yn Nyffryn Aman yng Nghymru, Slough yn Lloegr a Nelson yn Seland Newydd. Creuodd pob grwp ei ddrama ei hun ynghylch treftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol, ac mae'r tair sgript derfynol wedi cael eu huno i greu perfformiad hon, yn cynnwys cerddoriaeth a ffilm wreiddiol a grëwyd gan y bobl ifanc eu hunain.
"Mae wedi bod yn grêt yr wythnos hon, cael gweld sut mae'r tair sgript wedi ymgyfuno i ffurfio un... Rwy'n llawn cynnwrf wrth weld sut rydym wedi llwyddo i roi'r cyfan at ei gilydd i greu cynhyrchiad mor cwl a chyffrous"
Cyfranogwr o Seland Newydd
"Rwy'n berson eithaf swil ac rwyf wedi ymuno â phrosiect Strangers yn Ne Cymru. Rwy'n eitha’ nerfus, yn enwedig pan fyddaf yn cwrdd â phobl newydd ond roedd pawb yn hawdd iawn siarad â hwy ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd!! Iei!"
Cyfranogwr o Gymru
"Rwy'n teimlo fel person diarth o'r safle hwn!! Dw i heb fod yma ers tro ... roeddwn jest eisie dweud 'mod i'n teimlo’n syn ac yn hapus am fod pethau wedi symud ymlaen mor gyflym gyda'r prosiect hwn!"
Cyfranogwr o Slough
"Roedd y ddrama hon yn fentrus, yn arloesol, yn gyffrous ac yn hollol wreiddiol. Daeth perfformiad y bobl ifanc rhyfeddol hyn, a'r stori a adroddwyd ganddynt, â dagrau i'm llygaid. Nid yn unig rhoddodd yr arddegwyr o'u gorau ar y llwyfan, ond, ar y cyd â chyfarwyddwyr proffesiynol, fe wnaethon nhw ysgrifennu a chyfarwyddo'r sgript hefyd."
Bobby Besley, adolygydd o Seland Newydd
"Roedd Strangers yn arbennig o berthnasol i mi, gan 'mod i wedi croesi'r blaned a dod yma fel 'person diarth', ond rydym yn dysgu nad oes pobl ddiarth, dim ond ffrindiau nad ydym wedi cwrdd â hwy eto. Mae'r neges yn galonogol ac yn gysurlon."
Aelod o'r Gynulleidfa yn Seland Newydd
"Dynamig, heriol, pryfoclyd a hwyliog!"
Aelod o'r Gynulleidfa yng Nghymru