Strangers

Mae “Strangers”yn brosiect ysgrifennu sgriptiau a pherfformio Rhyngwladol sy'n cynnwys pobl ifanc o Orllewin Cymru, Slough a Seland Newydd. Gan ddefnyddio technoleg amlgyfrwng a pherfformiad, bydd pobl ifanc yn ymgysylltu ar raddfa fyd-eang, gan archwilio’u tirweddau diwylliannol a dathlu amrywiaeth drwy theatr.
Ble mae e'?
Dyffryn Aman, Cymru
Slough, De Orllewin Lloegr
Nelson/Tasman/Marlborough, Ynys y De, Seland Newydd
Nodau ac Amcanion
Rhoi cyfleoedd i bobl ifanc drwy theatr a'r celfyddydau digidol
Archwilio themâu hunaniaeth ymhlith pobl ifanc
Dathlu amrywiaeth a chefnogi'r famiaith
Hybu rhyngwladoliaeth
Rhoi cyfle i bobl ifanc weithio gydag artistiaid proffesiynol
Datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol sy'n canolbwyntio ar gyfathrebu ac adeiladu perthnasoedd gweithio
Creu 1 awr o theatr o safon uchel a fydd yn cael ei pherfformio ymhob lleoliad croesawu yn cynnwys pobl ifanc o'r 3 prosiect trwy amlgyfrwng.