Newyddion yng Nhymru

Gwyl Ein Milltir Sgwâr

Ar ôl llwyddiant Perfformiadau Strangers yn Theatr y Glowyr Rhydaman ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd, mae Theatr Ieuenctid MUTM wrthi’n ymarfer eto ac yn cynllunio ffordd o ddod â'u prosiect treftadaeth i ben mewn steil.

Ar Ddydd Mercher 23ain Ebrill 2008, am 7.30pm, bydd aelodau'r theatr ieuenctid yn cyflwyno golygfeydd a grewyd ganddyn nhw eu hunain i gynulleidfa cymuned leol yn cynnwys rhieni a ffrindiau, i ddathlu sut maent yn teimlo ynghylch eu “Milltir Sgwâr”. 

Ar ôl cymryd rhan yn y prosiect treftadaeth llwyddiannus dros ben "Fy Milltir Sgwâr“ a drefnwyd gan Gronfa Dreftadaeth Young Roots a Dynamix Cyf, mae ein haelodau wedi datblygu eu perfformiad mini eu hun a roddir yn Neuadd Aelwyd/ Pensiynwyr Brynaman er mwyn cyflwyno eu barnau a'u syniadau am y gymuned lle maent yn byw.

Os hoffech gael gwybod mwy ynghylch yr wyl anfonwch e-bost at peri@messupthemess.co.uk.

 

Cadw’r Cywir

Mae’r cynlluniau wrth fynd bellach ar gyfer ein cynhyrchiad proffesiynol cyntaf i'w gyflwyno yng Nghymru.  Fodd bynnag mae'r prosiect hwn wedi'i wreiddio yn syniadau pobl ifanc yn Sir Gâr, Powys a Castell Nedd Port Talbot.

Bydd prosiect Cadw’r Cywir/Keeping it Real yn dechrau yn yr haf a bydd yn rhedeg am 4 wythnos, pan fydd y cwmni theatr proffesiynol dwyieithog yn defnyddio gweithdai theatr ac ymgynghoriadau â phobl ifanc 14- 25 oed er mwyn hel syniadau sy'n ymwneud â diwylliant ieuenctid, a chreu perfformiad gwaith ar fynd yn Theatr Brycheiniog a Theatr y Glowyr Rhydaman.  Bydd pobl ifanc yn cael dweud eu dweud trwy banel ieuenctid a byddant yn cael adborthi eu barnau am y sioe ar ddiwedd y perfformiadau.

Os hoffech chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod gymryd rhan yn y prosiect cyffrous ac arloesol hwn mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni ar info@messupthemess.co.uk neu ffoniwch 07966 294 188.

Cefnogi BASE

Dros y 12 mis diwethaf, mae MUTM wedi bod yn cefnogi grwp o bobl ifanc lleol wrth iddynt ddatblygu a sefydlu eu grwp ieuenctid eu hunain, a elwir BASE (BrynAman Street Elite), ar gyfer pobl ifanc.

Ar ôl cydlynu eu prosiect cyntaf mewn partneriaeth â Cymunedau yn Gyntaf, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol a Heddlu Dyfed Powys a nifer o gyrff cefnogi cymunedol eraill, mae MUTM, ar hyn o bryd, yn cynorthwyo BASE i drefnu eu dangosiad agoriadol o'r DVD “CHOICES”.

Mae'r DVD yn trin peryglon ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud dewisiadau, ac fe gynhelir y dangosiad agoriadol yn Neuadd Eglwys Gymunedol Eglwys y Santes Catherine ar Ddydd Mawrth 29 ain Ebrill.

Bellach mae BASE yn grwp ieuenctid cyfansoddiadol gyda nodau ac amcanion elusennol.  Eu nod yw gwneud gwahaniaeth i ieuenctid eu cymuned trwy drefnu ystod o ddigwyddiadau a rhedeg amrywiad o brosiectau a chyfleoedd gyda phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.  Gwiriwch eu blog ar http://baselite.blogspot.com or email brynamanstreetelite@live.co.uk

Workshop in Brynaman Performance at St Fagan's National History Museum of Wales