Addysg a Hyfforddiant
Mae Mess Up The Mess wedi datblygu ystod eang o weithdai theatr a rhaglenni hyfforddi ar gyfer grŵp amryfal o gleientiaid, yn amrywio o bobl ifanc sy'n archwilio theatr er mwyn magu hyder, cwrdd â ffrindiau newydd a chymdeithasu, i'r rhai sydd wedi ymgysegru i fywyd ym maes y celfyddydau perfformiadol.
Mae MUTM yn rhagori mewn gweithio mewn ystod amrywiol o leoliadau, o ysgolion a cholegau i ganolfannau ieuenctid ac Unedau Tîm Troseddau Ieuenctid. Byddwn yn gweithio gyda chi i sefydlu nodau ac amcanion sy'n berthnasol i'r grŵp, boed wedi'u seilio ar y cwricwlwm neu ar anghenion pobl ifanc penodol.
Mae MUTM hefyd yn awyddus i ddarparu sesiynau theatr a fydd yn erfyn ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc, o athrawon i weithwyr cymdeithasol, ac mae'n chwilio am gyfranogion i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach.
Gall cael mynediad i fyd y celfyddydau perfformiadol fod yn dir peryglus, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd sy'n all-gaeëdig yn gymdeithasol neu'n economaidd, ond gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr ac Academi Greadigol Slough, mae MUTM wedi bod yn rhedeg cynllun swyddi dan hyfforddiant peilot i oresgyn y rhwystrau hyn.