Rhaglenni Addysgol
Nod Mess Up The Mess yw darparu gweithdai ysgogol, addysgol ac yn bennaf oll, hwyliog i bobl ifanc a grwpiau sy'n dymuno datblygu eu sgiliau theatr. Mae MUTM yn cyfuno sgiliau a doniau ei hactorion craidd er mwyn diwallu anghenion y grŵp, gan feithrin cyfleoedd i'ch mynegi eich hun mewn amgylchedd diogel a chreadigol.
Rydym yn arbenigo yn:
Dyfeisio, Theatr gorfforol, Creu cymeriad, Gwaith ensemble, Hyfforddiant llais, Canu, Magu hyder, Cyflwyno Brecht neu Shakespeare
A gellir darparu'r hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa beth bynnag sydd eu hangen ar eich grwpiau, gall MUTM greu profiad gweithdy bythgofiadwy!
"Y peth pwysicaf a ddysgais yn y gweithdai oedd sut i fynegi fy hun a gwneud ffrindiau newydd. Ar ddechrau'r wythnos, roeddwn yn eithaf swil ond 'nawr rwy'n teimlo'n hyderus dros ben."
Ysgol Haf Pobl Ifanc Prifysgol Dyffryn Tafwys 2006
Mae MUTM yn rhagori mewn gweithio mewn ystod amrywiol o leoliadau, o ysgolion a cholegau i ganolfannau ieuenctid ac Unedau Tîm Troseddau Ieuenctid. Byddwn yn gweithio gyda chi i sefydlu nodau ac amcanion sy'n berthnasol i'r grŵp, boed wedi'u seilio ar y cwricwlwm neu ar anghenion pobl ifanc arbennig.
Os hoffech gael manylion am sut i drefnu gweithdai drama yn eich canolfan ieuenctid, ysgol neu weithle, cysylltwch â:
Peri Thomas peri@messupthemess.co.uk Cymru
Sarah Jones sarah@messupthemess.co.nz Seland Newydd