Commonsensical

Commonsensical

Hanes cynhyrfus grŵp o gleifion mewn ward iechyd meddwl wrth iddynt wella'n raddol. Cipolwg gwefreiddiol a doniol ar "wella", o therapi sioc drydan i William Shakespeare.  Cyfuniad grymus o ddulliau theatrig a gwahoddiad unigryw i fod yn bresennol yn ystod oriau ymweld.
Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf o Commonsensical yng Nghanolfan Pobl Ifanc Slough, ac yna bu’n rhedeg yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2005.

"Maent yn cyflwyno elfen afresymol sy'n gweithio'n dda...golygfa gynhyrfus pan fo'r cleifion yn dawnsio o mor sobor gyda'u siwtcesys ...  archwiliad dyfeisgar o gymeriad."
The Scotsman

"Mae gan y perfformiad ymdeimlad o newydd-deb ac mae'r defnydd cymharol brin o gelfi yn llawn dychymyg."
The Three Weeks

"Doniol, trist, hudolus."
Slough Express

"Mwynhad llwyr. Cadwodd fy niddordeb ac roeddwn eisiau mwy.  Ffordd wahanol o edrych ar salwch iechyd meddwl."
Navin Jaitly 25 oed
Aelod o'r Gynulleidfa, Slough

"Yn ddigrif ac yn ddwys; archwiliad emosiynol a llawn dychymyg o salwch meddwl"
Alex McKenzie 18 oed
Aelod o'r Gynulleidfa, Caeredin

"Rhywbryd yng nghanol y ddrama, cofiais yn sydyn mod i mewn theatr ac nid yno yn yr ysbyty gyda Leonard, George, Paula a James."
Joanna Hardern 30 oed
Aelod o'r Gynulleidfa, Caeredin



 

 

Back